Ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Dlodi: Elfen 1, tlodi ac anghydraddoldeb

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Medi 2014

Tŷ Quebec | Pont y Castell | 5-19 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen | Caerdydd | Ffôn: 03000 231 011 | Ffacs: 03000 231060 |

www.citizensadvice.org.uk


Gair am Cyngor ar Bopeth Cymru

1.1.      Mae Cyngor ar Bopeth yn elusen annibynnol sy’n cwmpasu Cymru a Lloegr. Mae’n gweithredu fel Cyngor ar Bopeth Cymru yng Nghymru ac mae ganddi swyddfeydd yng Nghaerdydd a’r Rhyl. Mae 20 o Ganolfannau Cyngor ar Bopeth i’w cael yng Nghymru, pob un ohonynt yn aelodau o Cyngor ar Bopeth Cymru, ac yn darparu gwasanaethau o dros 375 o leoliadau.

Mae gan y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth ddwy nod:

·         Darparu’r cyngor y mae ar bobl ei angen ar gyfer y problemau maent yn eu hwynebu

·         Gwella’r polisïau a’r arferion sy’n effeithio ar fywydau pobl.

1.2.      Mae’r cyngor a ddarperir gan y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn rhad ac am ddim, yn annibynnol, yn gyfrinachol a diduedd, ac mae ar gael i bawb beth bynnag fo’u hil, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, oedran neu’u cenedligrwydd.

 

1.3.      Gwirfoddolwyr hyfforddedig yw’r rhan fwyaf o staff gwasanaethau Cyngor ar Bopeth. Mae’r holl staff cynghori, boed nhw’n gyflogedig neu wirfoddol, yn cael eu hyfforddi mewn sgiliau cynghori a chânt ddiweddariadau rheolaidd ar hyfforddiant pwnc-benodol a mynediad i gefnogaeth arbenigol ar bynciau penodol.

 

1.4.      Mae’r Canolfannau Lleol, o dan delerau aelodaeth Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor craidd yn seiliedig ar dystysgrif o safonau ansawdd ar fudd-daliadau lles/credydau treth, dyledion, tai, cynhyrchion a gwasanaethau ariannol, materion defnyddwyr, cyflogaeth, iechyd, mewnfudo a lloches, materion cyfreithiol, a pherthnasoedd a materion teuluol.

 

1.5.      Bellach mae gan y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth gyfrifoldebau dros gynrychioli defnyddwyr yng Nghymru yn sgil newidiadau Llywodraeth y DU yn y maes defnyddwyr[1]. O 1af Ebrill 2014 mae’r cyfrifoldebau hyn yn cynnwys swyddogaethau statudol a chyfrifoldebau i gynrychioli defnyddwyr ynni a’r post.

Crynodeb o’r Prif Bwyntiau

1.6.      Gall cyngor o ansawdd gynorthwyo pobl i osgoi problemau a allai gynyddu eu risg o dlodi ac anfantais. Rydym yn credu y dylai’r cyngor hwn fod yn rhad ac am ddim, yn ddiduedd ac yn annibynnol.

 

1.7.      Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu ei bod yn bwysig ystyried tlodi tanwydd yn nhermau profiadau byw defnyddwyr, nid dim ond yn nhermau gwahanol ddiffiniadau technegol a’r targedau statudol.

 

1.8.      Rydym yn argymell y dylai Nyth (neu ei gynlluniau olynol), fel mater o drefn, gasglu a chyhoeddi data hunan-adrodd gan dderbynwyr ynghylch eu gallu i fforddio biliau a chynhesu eu cartrefi ar ôl derbyn mesurau. Bydd hyn yn sicrhau bod eu profiadau nhw yn ganolbwynt i’r monitro a’r gwerthuso, a’u bod yn dylanwadu ar ddyluniad a chynulleidfa darged y cynllun hwn pan gaiff ei ailadrodd i’r dyfodol.

 

1.9.      Credwn fod angen i fwy o ystyriaeth gael ei rhoi i sut mae Llywodraeth Cymru yn mesur ac yn monitro tlodi / amddifadedd gwledig fel y gellir rhoi ystyriaeth i’r amgylchiadau penodol sy’n wynebu cymunedau gwledig.

 

1.10.   Rydym yn argymell bod gwerthusiadau yn cael eu cyhoeddi gan dynnu sylw at sut mae strategaethau a chynlluniau Llywodraeth Cymru yn gwella’r canlyniadau’n benodol i wahanol grwpiau y mae’r sefyllfa’n effeithio’n anghymesur arnynt a gwahanol grwpiau dan anfantais.

 

Ein hymateb

2.1.      Yn 2013-2014 fe wnaeth y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yng Nghymru gynorthwyo 134,000 o unigolion gyda dros 337,000 o ymholiadau. Cawsom hefyd dros 1 filiwn o ymweliadau â’n gwefan hunangymorth Adviceguide gyda 13,000 o’r rhaid yn ymweld â’n cynnwys Cymraeg. 

 

2.2.      Drwy ddarparu cyngor i bobl yng Nghymru i helpu i ddatrys eu problemau, ac i geisio gwella polisi ac ymarfer, ein nod yw rhoi budd i gymdeithas a helpu i atal tlodi. Rydym yn credu bod ein cyngor yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles ein cleientiaid, gan leihau straen a phryder, atal perthnasoedd rhag chwalu, hyrwyddo cyflogaeth a grymuso pobl i wneud newidiadau cadarnhaol ehangach yn eu bywyd. Mae dadansoddiad diweddar o’n heffaith[2] wedi dangos ein bod wedi helpu i ddatrys problemau 2 o bob 3 o’n cleientiaid.

 

2.3.      Rydym yn gwneud gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithiol drwy rannu ein dealltwriaeth gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol i ddatrys problemau ar y cyd. Mae ein gwybodaeth unigryw a helaeth am faterion sy’n effeithio ar fywydau ein cleientiaid, yn ein galluogi i leisio hyn ar lefel strategol yn lleol neu’n genedlaethol. Mae hyn yn rhoi budd i fwy na dim ond ein sylfaen cleientiaid uniongyrchol, drwy wneud cymdeithas yn decach. Yn ychwanegol at ein gwaith ymgyrchu i ddylanwadu ar newid, rydym yn grymuso unigolion a chymunedau i ymgysylltu â chymdeithas, ac yn gwneud gwahaniaeth i’r materion sy’n bwysig gan eu galluogi i ddefnyddio eu llais i siapio gwasanaethau. Un enghraifft ddiweddar o hyn yw ein blog Fit for Work[3].

 

2.4.      Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn rheoli un o Brosiectau Rhannu Canlyniadau Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru a ddechreuodd ym mis Hydref 2013 ac sy’n para tan fis Mawrth 2015. Mae’r prosiect hwn yn cefnogi 36 o’r 52 o Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf a geir yng Nghymru. Yn flaenorol, nid oedd ganddynt wasanaethau allgymorth penodol yn y gymuned i roi cyngor ar ddyledion, cyngor ar fudd-daliadau lles (gan gynnwys cynyddu incwm) na darpariaeth gallu ariannol.

 

2.5.      Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu ‘Gwell Cyngor, Gwell Bywydau’, prosiect sy’n ceisio cynyddu incwm pobl mewn ardaloedd difreintiedig y mae tlodi yn debygol o effeithio ar eu hiechyd. Mae Canolfannau Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor drwy’r prosiect hwn mewn cydweithrediad â thimau gofal iechyd lleol ledled Cymru. Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru o leiaf un cynghorydd arbenigol sy’n gweithio ar draws y gymuned. Yn 2013/14, fe wnaeth Gwell Cyngor, Gwell Bywydau weld dros 20,000 o gleientiaid newydd, gan ddelio â bron i 40,000 o faterion newydd. Roedd yr ‘enillion a gadarnhawyd’ i’r holl gleientiaid gyda’i gilydd yn ystod y flwyddyn ar gyfer y prosiect yn ei gyfanrwydd yn dros £16 miliwn. Mae’r bartneriaeth yn gweithredu’n wahanol yn ôl yr anghenion lleol, ond gall gynnwys:

 

• cynnal sesiynau Cyngor ar Bopeth yn rheolaidd mewn meddygfeydd a chanolfannau iechyd

• ymweliadau cartref â chleifion sy’n cael eu cyfeirio gan ymarferwyr iechyd

• sesiynau cynghori mewn ysbytai cymunedol a gwasanaethau iechyd meddwl.

 

2.6.      Rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru o’r angen am gyngor fel ymyriad i liniaru effaith tlodi, ond byddem hefyd yn galw am fwy o gydnabyddiaeth bod cyngor amserol, diduedd, o ansawdd, rhad ac am ddim, yn y gymuned ar ystod o faterion yn gallu atal tlodi.

 

2.7.      Gall cyngor o ansawdd gynorthwyo pobl i osgoi problemau a allai gynyddu eu risg o dlodi ac anfantais yn enwedig ym meysydd cyflogaeth a chyngor ar berthnasoedd lle gallai ymyrryd drwy gynghori atal amgylchiadau a fyddai’n achosi tlodi, er enghraifft, colli cyflogaeth neu niwed arall o ganlyniad i wahaniaethu.

 

Tlodi Tanwydd

3.1.      Mae Tlodi Tanwydd yn flaenoriaeth amlwg i Cyngor ar Bopeth Cymru, o gofio pwysigrwydd bil ynni y gallant fforddio ei dalu i’n cleientiaid sy’n aml yn cael trafferth gyda nifer o broblemau ariannol eraill. O fis Ebrill 2014 ymlaen mae ein rôl statudol newydd yn dod â chyfrifoldeb clir i eiriol dros bob defnyddiwr ynni ar bolisïau’r llywodraeth sy’n effeithio arnynt. Felly, rydym yn teimlo ei bod yn bwysig tynnu sylw arbennig at ein barn ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i drechu tlodi tanwydd fel rhan o’r ymateb hwn.

Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni

3.2.      Mae gan Lywodraeth Cymru amrywiol gynlluniau i drechu tlodi tanwydd sydd â’r nod o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi pobl - cyfeirir ato fel ‘ôl-osod’. Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd strategaeth ehangach i drechu tlodi, gyda llawer o’r strategaeth honno’n canolbwyntio ar leihau diweithdra, a chynyddu incwm drwy roi cyngor ar hawlio budd-daliadau.

Ceir tri ffactor sy’n peri i aelwyd fod mewn tlodi tanwydd:

 

3.3.      Rydym yn cydnabod mai ychydig o ysgogiadau polisi datganoledig i ostwng pris ynni’n uniongyrchol sydd gan Lywodraeth Cymru. Cefnogi mesurau effeithlonrwydd ynni a darparu cyngor ar leihau defnydd o ynni neu gynyddu incwm yw’r dulliau mwyaf uniongyrchol sydd ar gael iddi i fynd i’r afael yn uniongyrchol â thlodi tanwydd.

 

3.4.      Drwy ymrwymo cyllid sylweddol i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi pobl, mae Llywodraeth Cymru wedi sylweddoli’n amlwg lle y gall wneud gwahaniaeth. Rydym hefyd yn cydnabod mai dim ond un o ganlyniadau bwriadol cynlluniau Nyth ac Arbed yw trechu tlodi tanwydd, ochr yn ochr â nodau amgylcheddol ac economaidd.

 

3.5.      Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu ei bod yn bwysig ystyried tlodi tanwydd yn nhermau profiadau byw defnyddwyr, nid dim ond yn nhermau’r gwahanol ddiffiniadau technegol a’r targedau statudol. Rydym wedi datgan yr hyn yr ydym yn ystyried yw ‘symptomau’ allweddol tlodi tanwydd o safbwynt y defnyddiwr.

·         Anallu i fforddio biliau ynni’r cartref

·         Gwneud heb wasanaethau a nwyddau hanfodol eraill i dalu biliau ynni

·         Anallu i gynhesu eu cartref i lefel dderbyniol

a

·         Dyledion, straen, gwaeledd, neu unrhyw niwed arall sy’n cael ei achosi neu’i waethygu gan yr uchod.

3.6.      Byddwn yn cynnal ymchwil eleni i ddeall ymhellach ba symptomau y mae grwpiau defnyddwyr gwahanol yn dweud sydd bwysicaf, a pha fathau o gefnogaeth y dywedant y mae arnynt ei heisiau.

 

Monitro, gwerthuso a chynlluniau i’r dyfodol

3.7.      Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo adnoddau sylweddol i fynd i’r afael ag un o achosion tlodi tanwydd, rydym yn teimlo bod angen am dystiolaeth fwy cadarn bod y cynlluniau yn mynd i’r afael â’r symptomau. Mae Nyth yn cael ei werthuso ar hyn o bryd, a chaiff cynllun dilynol ei gynllunio, felly mae’n amserol ystyried sut y gellid datblygu oddi ar ei lwyddiant hyd yma a’i wella.

3.8.      Mae gan Cyngor ar Bopeth Cymru nifer o bryderon yr ydym wedi’u codi’n ddiweddar yn ein tystiolaeth i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, fel rhan o’u Hymchwiliad i gynlluniau tlodi tanwydd; teimlwn ei bod yn briodol crybwyll y pryderon hyn yma. Mae’r rhain yn ymwneud yn uniongyrchol â sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro lefelau tlodi tanwydd yng Nghymru ac yn mesur effaith yr hyn mae’n ei wneud i drechu tlodi tanwydd.

3.9.      Yn benodol mae gennym bryderon ynghyn â bod data Byw yng Nghymru 2008 yn dal i gael ei ddefnyddio fel y llinell sylfaen ar gyfer amcanestyniadau tlodi tanwydd yng Nghymru. O ddefnyddio data sy’n chwe blwydd oed y perygl yw y rhoddir darlun sy’n dyddio fwyfwy, ac mae’n cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i ymateb i unrhyw dueddiadau sy’n dod i’r amlwg. Nid yw ychwaith yn rhoi darlun digonol o lle dylai adnoddau gael eu targedu orau.

3.10.   Mae Lloegr yn seilio ei hamcanestyniadau tlodi tanwydd ar Arolwg Tai Lloegr ac mae’r Alban yn eu seilio ar Arolwg Cyflwr Tai yr Alban. Caiff y ddau arolwg eu rhedeg yn barhaus, ac mae’n cymryd dwy flynedd i gasglu ac adrodd ar ddata o’r ddau. Er nad yw hyn yn rhoi darlun cwbl ddiweddar, mae yn caniatáu i adroddiadau cadarn gael eu llunio o dlodi tanwydd a thueddiadau tai eraill oherwydd y cynhelir asesiadau manwl ym mhob cartref.

3.11.   Er mwyn gallu targedu’n effeithiol mae gofyn cael data cadarn a diweddar o gartrefi yng Nghymru, ac arolwg o gartrefi fyddai’r ffordd orau o gyflawni hyn. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai hyn fod yn rhy gostus yn yr hinsawdd bresennol, ac felly byddem yn awgrymu y gallai Arolwg Cenedlaethol presennol Cymru fod yn ddewis arall.

3.12.   Rydym yn argymell y dylai Nyth (neu ei gynlluniau olynol), fel mater o drefn, gasglu a chyhoeddi data hunan-adrodd gan dderbynwyr ynghylch eu gallu i fforddio biliau a chynhesu eu cartrefi ar ôl derbyn mesurau. Bydd hyn yn sicrhau bod eu profiadau nhw yn ganolbwynt i’r monitro a’r gwerthuso, a’u bod yn dylanwadu ar ddyluniad a chynulleidfa darged y cynllun hwn pan gaiff ei ailadrodd i’r dyfodol. Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws i sefydliadau partner graffu mewn modd adeiladol ac yn caniatáu i effeithiolrwydd y gwahanol ddulliau a ddefnyddia Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban gael ei gymharu.

3.13.   Nid yw pob defnyddiwr sy’n ei chael yn anodd talu biliau ynni yn gallu cael mesurau effeithlonrwydd ynni. Yn hanfodol, gan ystyried y posibilrwydd y gallai’r cynnydd mewn prisiau ynni ddadwneud unrhyw arbedion a gafwyd drwy Nyth neu Arbed, mae’n bosib bod hyd yn oed y defnyddwyr hynny sydd wedi cael help yn y gorffennol yn dal i fod mewn tlodi tanwydd, neu’n ei chael yn anodd talu eu biliau.

3.14.   Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu ei bod yn bwysig canfod pa fathau eraill o gefnogaeth y gellid ei rhoi i aelwydydd sy’n annhebygol o elwa o fesurau effeithlonrwydd ynni i’r dyfodol. Bydd hon yn rhan arall o’n hymchwil eleni.

 

Tlodi Gwledig

4.1.      Rydym yn cytuno â pholisi Llywodraeth Cymru y dylid delio â thlodi gwledig drwy ddull cydgysylltiedig ac y dylai ymyriadau penodol o dan y Cynllun Datblygu Gwledig a mesurau polisi ehangach fod yn ategu ei gilydd. Rydym hefyd yn cytuno â’r gofyn bod Grwpiau Gweithredu Lleol, wrth lunio strategaethau datblygu lleol, yn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â rhaglenni cyflenwi gwasanaethau eraill, gan gynnwys Cynlluniau Integredig Sengl y Byrddau Gwasanaethau Lleol, rhaglenni Ewropeaidd eraill a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi.   

 

4.2.      Nodwn farn Llywodraeth Cymru na fydd ymyriadau penodol drwy gyfrwng Grwpiau Gweithredu Lleol, ar eu pen eu hunain, yn arwain at y newid sy’n angenrheidiol mewn tlodi gwledig, ac y bydd mesurau wedi’u targedu fel sy’n cael eu datgan yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yn hanfodol. 

 

4.3.      Credwn fod angen rhoi mwy o ystyriaeth i sut mae Llywodraeth Cymru yn mesur ac yn monitro tlodi/amddifadedd gwledig fel y gall yr amgylchiadau penodol sy’n wynebu cymunedau gwledig gael eu hystyried. Gallai hyn olygu newid y ffactorau pwysoli a ddefnyddir gyda phob parth neu gynnwys dangosyddion ychwanegol. Siomedig yw gweld na chaiff tlodi tanwydd bellach ei gynnig fel un o’r dangosyddion terfynol, yn enwedig gan fod prisiau ynni wedi codi saith gwaith a hanner yn gyflymach nag enillion dros y tair blynedd diwethaf.

 

4.4.      Er bod y blaenoriaethau allweddol a ddyfynnir o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yn hanfodol i oresgyn tlodi gwledig, rydym yn pryderu mai ychydig iawn a geir am sut y cânt eu teilwra’n unol â heriau ac anghenion penodol ardaloedd gwledig, boed hynny ar lefel genedlaethol neu leol, a chredwn y ceir diffyg targedau ac amcanion penodol i ardaloedd gwledig, targedau ac amcanion y gellid eu defnyddio i fesur cynnydd.

Cydgysylltu

5.1.      Mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi a’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ill dau yn ymrwymo i blethu â’i gilydd oherwydd natur debyg eu hamcanion ac er mwyn osgoi dyblygu a chynyddu cydweithio. Rydym yn cefnogi hyn, ar y cyfan, fel dull o rannu arferion da, gan sicrhau bod adnoddau cyfyngedig yn cael eu dyrannu’n effeithiol a’u targedu. Dylid darparu ymyriadau priodol hefyd i’r grwpiau hynny y mae tlodi’n effeithio’n anghymesur arnynt neu grwpiau sydd mewn mwy o berygl o dlodi o ganlyniad i nodwedd warchodedig benodol neu amgylchiadau eraill.

 

5.2.      Rydym yn cydnabod ac yn cefnogi’r symud at Atebolrwydd ar sail Canlyniadau ac adrodd ar ddeilliannau a gwerthfawrogwn y wybodaeth a gynhyrchir i’r cyhoedd fel yr amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu a’r ystadegau cysylltiedig a welir ar wefan Llywodraeth Cymru[4], felly hefyd yr adroddiad blynyddol Creu Cymunedau Cryf[5].

 

5.3.      Rydym yn nodi, fodd bynnag, ei bod yn ymddangos nad oes dim ymchwil sylweddol na data ar gael i’r cyhoedd sy’n dangos effaith a chanlyniadau amrywiol strategaethau a chynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi i wahanol grwpiau. Teimlwn hefyd y dylai hyn fod yn un o’r gofynion allweddol er mwyn sicrhau y gellir gwerthuso a monitro nodau’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi a’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol er mwyn sicrhau na cheir unrhyw effaith anghymesur ar unrhyw grŵp penodol.

 

5.4.      Yn olaf, hoffem gyfeirio’n arbennig at waith hyrwyddwyr Gwrth-dlodi Awdurdodau Lleol. Er ein bod yn teimlo y ceir enghreifftiau o gydweithio da rhwng yr hyrwyddwr a enwebwyd a’r Trydydd Sector, gan gynnwys y canolfannau Cyngor ar Bopeth lleol mewn rhai awdurdodau lleol, mewn eraill ni cheir unrhyw berthynas o’r fath, ac rydym yn teimlo y byddai perthynas gryfach rhwng hyrwyddwyr Gwrthdlodi a chanolfannau Cyngor ar Bopeth lleol yn ennyn gwell atebion a gynhyrchir ar y cyd i broblemau lleol.

 

5.5.      Mae asiantaethau cynghori’n meddu ar gyfoeth o arbenigedd ar faterion sy’n effeithio ar y cymunedau maent yn eu gwasanaethu ar hyn o bryd, gan gynnwys mynediad i waith, effaith newidiadau mewn budd-daliadau, mynediad digidol, gwasanaethau ariannol, tai a thlodi tanwydd. Gall y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth ddarparu dadansoddiadau ystadegol o’r materion y mae pobl yn ceisio cyngor yn lleol arnynt, yn ogystal â gwybodaeth fwy ansoddol am y ffordd y mae’r materion hyn yn effeithio ar bobl. Er enghraifft, gallwn ddarparu dangosfyrddau â mapiau sy’n dangos ffeithiau a ffigurau am gleientiaid a chyngor, yn ôl awdurdodau lleol, yn ogystal â mapiau’n dangos lleoliad canolfannau, nifer y cleientiaid ynghyd â mynegeion amddifadedd lluosog yn ôl Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is, gan ddangos y galw am wasanaethau cynghori, a’r niferoedd sy’n eu defnyddio.

 

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag:

Alun Evans

Swyddog Ymgyrchoedd ac Addysg

Cyngor ar Bopeth Cymru

03000 231 386

Alun.Evans2@citizensadvice.org.uk

 



[1] Ar 1af Ebrill 2013 cafodd y cyfrifoldeb dros gynrychioli defnyddwyr ei drosglwyddo oddi wrth Llais Defnyddwyr i’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (gan gynnwys Cyngor ar Bopeth Cymru) yn dilyn adolygiad Llywodraeth y DU o’r maes defnyddwyr.

[2] Ymchwil i Effaith a Deilliannau Cenedlaethol, http://www.citizensadvice.org.uk/index/aboutus/impact_of_citizens_advice_service.htm

[3] https://blogs.citizensadvice.org.uk/blog/was-it-fit-for-work-for-you/

[4] http://wales.gov.uk/about/programmeforgov/equality/?skip=1&lang=cy

[5] http://wales.gov.uk/docs/dsjlg/publications/140702-action-plan-annual-report-14-cy.pdf